Job Description

Job Title: Smarter Choices Manager, Wales

Reference: SUS1648

Salary: Grade H: £27,109 - £31,546 per annum

(dependent on relevant skills and experience)

Hours: 37.5 per week

Base: Sustrans Offices, Cardiff

Job Purpose:

The role of Smarter Choices Manager is to ensure effective delivery of all behaviour change projects in Wales, in all settings, including the Sustrans Cymru School Travel programme and to promote their integration with other Sustrans activities in order to help achieve the strategic objectives of the charity at the devolved level. They will network and own relationships with key organisations in relation to health, social justice and behaviour change agendas.

Dimensions of Job:

This postholder will provide development, direction and management for the Smarter Choices suite of projects in Wales, including ensuring project targets are met and work is delivered on time and on budget. The postholder will work with partners to integrate the promotion of travel behaviour change programmes into local strategies and spending plans for transport, health, well being, regeneration and community development.

The postholder will manage project staff based in the nation and will contribute to strategic direction and income generation in Wales.

Place in organisational structure:

The postholder will report to the National Director, Wales and be a member of the senior leadership team in Wales. They will work closely with other Sustrans Cymru staff plus project staff from central teams. Close liaison with local authority representatives, and other partners (including Local Health Boards) will be necessary.

Key Relationships:

Internal: National Director, Wales

Head of Built Environment (Wales)

Head of External Affairs (Wales)

Programme Manager, Education and Young People (Wales) until January 2016 when this post closes

Smarter Choices officers in Wales

Programme & Business Development Coordinator (Wales)

Area Managers (Wales)

Head of Smarter Choices (Bristol)

Head of Community & Volunteers (Bristol)

Other head office support staff

Regional and developed Smarter Choices Managers

Other Sustrans staff

External: Welsh Government; health, transport, communities, education

Local Authorities

Public Health Wales and Local Health Boards

Partners involved in project work

Communities First clusters

Business sector

Other third sector organisations involved in community regeneration, health, and local transport issues

Local and national media

Key Responsibilities:

1.  To oversee the planning, delivery, monitoring and reporting of all Sustrans Smarter Choices projects in Wales

2.  To be the main contact with funders of these projects, responsible for the budgets, meeting targets, project reporting etc.

3.  To support the National Director, in developing and realising new business opportunities for Smarter Choices work, for example by building funding relationships and preparing competitive tenders

4.  To develop collaborations with external organisations, umbrella groups and universities which lead to new Smarter Choices opportunities for Wales, in collaboration with Sustrans HQ services and other team members in Wales

5.  To lead policy development in Wales in relation to Health and Wellbeing (with support from HQ and Head of External Affairs Wales)

6.  To lead the development of our practical work by feeding in to Strategic Planning and implementation of associated action / delivery plans

7.  To line manage and support officers working on behaviour change projects in Wales, including the school travel and volunteer team, in the delivery of high quality practical projects to promote sustainable travel behaviour

8.  To ensure integration of Smarter Choices projects in Wales, with other Sustrans work, including Built Environment projects, in order to maximise their impact

9.  To ensure effective co-ordination with Sustrans Smarter Choices programmes in other devolved nations and regions through sharing information and good practice

10.  To support Sustrans communications activities, for example by collating information for online and offline publications, liaising with Sustrans press office staff to undertake local media work; making presentations to local stakeholders; ensuring contact databases are kept up to date with regional contacts

11.  To support delivery of Sustrans voluntary fund-raising strategy, for example by ensuring project beneficiaries are given opportunity to support the charity where appropriate

12.  To provide support on the strategic development of the Volunteer programme in Wales, consistent with the UK-wide approaches

13.  To support and comply with the organisation's policy for the management of Health and Safety

14.  To work in accordance with the arrangements described in the organisation's health and safety management system including any project or department specific requirements

15.  To carry out other duties as required.

Working Conditions:

The postholder will be based at the Sustrans office in Cardiff, but will be expected to visit and work with staff based throughout Wales and occasional UK co-ordinated meetings, as appropriate. Occasional overnight stays away from home, weekend and late working may be required.

Special Note:

This job description does not form part of the contract of employment, but indicates how that contract should be performed. The job description may be subject to amendment in the light of experience and in consultation with the jobholder.

Compiled: National Director, Wales

Date: September 2015


Smarter Choices Manager, Wales (SUS1648)

Person Specification

Criteria / Essential
Qualifications, education and training / Good standard of education
Experience / Experience of partnership working with NGOs and local authority projects
Experience of leading and securing income through successful proposals and grant applications from a variety of sources and working with funders on a regular basis
Project management experience
Experience of line management and remote supervision
Experience of providing advice and support
Experience of working with budgets
Experience of working on behaviour change programmes
Skills and abilities / Ability to plan, co-ordinate and organise effective work plans
Excellent written and verbal communications skills
Good report writing skills
Excellent presentation skills
Good leadership skills
Ability to motivate others
Demonstrable ability to work to deadlines
Ability to find creative solutions to a range of problems
IT literacy
Other / Commitment to the promotion of sustainable transport
Good awareness in health promotion and behaviour change
Criteria / Desirable
Experience / Experience of leading group workshops and event planning
Knowledge / Knowledge of Sustrans work in schools, communities and workplaces
Other / Competency in the Welsh language

Disgrifiad Swydd

Teitl Swydd: Rheolwr Dewisiadau Doethach, Cymru

Cyfeirnod: SUS1648

Cyflog: Gradd H: £27,109 - £31,546 y flwyddyn

(yn ddibynnol ar sgiliau a phrofiad perthnasol)

Oriau: 37.5 yr wythnos

Lleoliad: Swyddfeydd Sustrans, Caerdydd

Diben y Swydd:

Rôl Rheolwr Dewisiadau Doethach yw sicrhau bod holl brosiectau newid ymddygiad yng Nghymru, ym mhob lleoliad, yn cael eu cyflawni’n effeithiol, gan gynnwys rhaglen Teithio Ysgol Sustrans Cymru, a hyrwyddo eu hintegreiddiad gyda gweithgareddau eraill Sustrans er mwyn cynorthwyo i gyflawni amcanion strategol yr elusen ar y lefel ddatganoledig. Bydd yn rhwydweithio a bydd ganddo berthynas gyda sefydliadau allweddol parthed agendâu iechyd, cyfiawnder troseddol a newid ymddygiad.

Dimensiynau’r Swydd:

Bydd deiliad y swydd yn datblygu, rhoi cyfeiriad a rheoli’r gyfres o brosiectau Dewisiadau Doethach yng Nghymru, yn cynnwys sicrhau bod targedau prosiect yn cael eu cyflawni a’r gwaith yn cael ei wneud ar amser ac o fewn cyllideb. Bydd deiliad y swydd yn gweithio gyda phartneriaid er mwyn integreiddio hyrwyddiad rhaglenni newid ymddygiad i strategaethau lleol a chynlluniau teithio ar gyfer trafnidiaeth, iechyd a lles, adfywio a datblygu cymunedol.

Bydd deiliad y swydd yn rheoli staff prosiect sydd wedi eu lleoli yng Nghymru a bydd yn cyfrannu at gyfeiriad strategol a chreu incwm yng Nghymru.

Safle yn strwythur y sefydliad:

Bydd deiliad y swydd yn adrodd i’r Cyfarwyddwr Cenedlaethol, Cymru a bydd yn aelod o’r uwch dîm rheoli yng Nghymru. Bydd yn gweithio’n agos gydag aelodau eraill staff Sustrans Cymru a staff prosiect o dimau canolog. Bydd angen cydweithio'n agos gyda chynrychiolwyr awdurdod lleol, a phartneriaid eraill (yn cynnwys Byrddau Iechyd Lleol).

Cysylltiadau Allweddol:

Mewnol: Cyfarwyddwr Cenedlaethol, Cymru

Pennaeth Amgylchedd Adeiledig (Cymru)

Pennaeth Materion Allanol (Cymru)

Rheolwr Rhaglen, Addysg a Phobl Ifanc (Cymru) hyd fis Ionawr 2015 pan fydd y swydd hon yn cau

Swyddogion Dewisiadau Doethach yng Nghymru

Cydlynydd Datblygu Rhaglen a Busnes (Cymru)

Rheolwyr Ardal (Cymru)

Pennaeth Dewisiadau Doethach (Bryste)

Pennaeth Cymunedau a Gwirfoddolwyr (Bryste)

Staff cefnogi eraill yn y brif swyddfa

Rheolwr Dewisiadau Doethach Rhanbarthol a datblygedig

Aelodau eraill o staff Sustrans

Allanol: Llywodraeth Cymru; iechyd, trafnidiaeth, cymunedau, addysg

Awdurdodau Lleol

Iechyd Cyhoeddus Cymru a Byrddau Iechyd Lleol

Partneriaid sy’n gysylltiedig â gwaith prosiect

Clystyrau Cymunedau yn Gyntaf

Sector busnes

Sefydliadau trydydd sector eraill sy’n gysylltiedig â materion adfywio cymunedol, iechyd a thrafnidiaeth leol

Cyfryngau lleol a chenedlaethol

Cyfrifoldebau Allweddol:

16.  Goruchwylio gwaith cynllunio, cyflawni, monitro ac adrodd parthed holl brosiectau Dewisiadau Doethach Sustrans yng Nghymru

17.  Bod y prif gyswllt gyda chyllidwyr y prosiectau hyn, yn gyfrifol am gyllidebau, cyrraedd targedau, adrodd ar brosiectau ac ati

18.  Cefnogi'r Cyfarwyddwr Cenedlaethol i ddatblygu a gwireddu cyfleoedd busnes newydd ar gyfer gwaith Dewisiadau Doethach, er enghraifft drwy feithrin cysylltiadau cyllido a pharatoi tendrau cystadleuol

19.  Datblygu cydweithrediadau gyda sefydliadau allanol, grwpiau ymbarél a phrifysgolion sy’n arwain at gyfleoedd Dewisiadau Doethach newydd ar gyfer Cymru, mewn cydweithrediad â gwasanaethau Pencadlys Sustrans ac aelodau eraill y tîm yng Nghymru

20.  Arwain y gwaith o ddatblygu polisi yng Nghymru parthed Iechyd a Lles (gyda chefnogaeth gan y Pencadlys a Phennaeth Gwasanaethau Allanol Cymru)

21.  Arwain datblygiad ein gwaith ymarferol drwy fwydo i Gynllunio Strategol a rhoi cynlluniau gweithredu/cyflenwi cysylltiedig ar waith

22.  Rheoli llinell a chefnogi gweithwyr sy’n gweithio ar brosiectau newid ymddygiad yng Nghymru, yn cynnwys y tîm teithio ysgol a'r tîm gwirfoddolwyr, wrth gyflawni prosiectau ymarferol o ansawdd uchel er mwyn hyrwyddo ymddygiad teithio cynaliadwy

23.  Sicrhau bod prosiectau Dewisiadau Doethach yng Nghymru yn cael eu hintegreiddio gyda gwaith arall Sustrans, yn cynnwys prosiectau Amgylchedd Adeiledig, er mwyn iddynt gael yr effaith orau posibl

24.  Sicrhau cydgysylltiad effeithiol gyda rhaglenni Dewisiadau Doethach Sustrans mewn gwledydd a rhanbarthau datganoledig eraill drwy rannu gwybodaeth ac arfer da

25.  Cefnogi gweithgareddau cyfathrebu Sustrans, er enghraifft drwy goladu gwybodaeth ar gyfer cyhoeddiadau ar-lein ac oddi ar-lein, cydweithio â staff swyddfa’r wasg Sustrans er mwyn ymgymryd â gwaith cyfryngau lleol, gwneud cyflwyniadau i randdeiliaid lleol, sicrhau bod cronfeydd data cysylltiadau yn cael eu diweddaru gyda chysylltiadau rhanbarthol

26.  Cefnogi cyflawniad strategaeth codi arian gwirfoddol Sustrans, er enghraifft drwy sicrhau bod buddiolwyr prosiectau yn cael cyfle i gefnogi’r elusen lle bo hynny’n briodol

27.  Darparu cefnogaeth ar ddatblygiad strategol y rhaglen Gwirfoddolwyr yng Nghymru, yn gyson â dulliau’r DU yn gyfan

28.  Cefnogi a chydymffurfio â pholisi’r sefydliad ar reoli Iechyd a Diogelwch.

29.  Gweithio yn unol â’r trefniadau a ddisgrifir yn system rheoli iechyd a diogelwch y sefydliad yn cynnwys gofynion penodol unrhyw brosiect neu adran

30.  Ymgymryd â dyletswyddau eraill yn ôl y gofyn.

Amodau Gweithio:

Bydd deiliad y swydd wedi ei leoli yn swyddfa Sustrans yng Nghaerdydd, ond disgwylir iddo ef neu hi ymweld a gweithio gyda staff sydd wedi’u lleoli ledled Cymru ac weithiau fynychu cyfarfodydd a gydlynir yn y DU fel sy’n briodol. Efallai y bydd angen aros oddi cartref dros nos, gweithio dros benwythnos a gyda'r hwyr yn achlysurol.

Nodyn Arbennig:

Nid yw’r disgrifiad swydd hwn yn llunio rhan o’r contract cyflogaeth, ond mae’n dangos sut y dylid perfformio’r contract. Gall y disgrifiad swydd newid o ganlyniad i brofiad ac mewn ymgynghoriad â deiliad y swydd.

Crëwyd gan: Cyfarwyddwr Cenedlaethol, Cymru

Dyddiad: Medi 2015


Rheolwr Dewisiadau Doethach, Cymru (SUS1648)

Manyleb Person

Meini Prawf / Hanfodol
Cymwysterau, addysg a hyfforddiant / Safon addysg dda
Profiad / Profiad o weithio mewn partneriaeth gyda chyrff anllywodraethol a phrosiectau awdurdod lleol
Profiad o arwain a sicrhau incwm drwy gynigion a cheisiadau grant llwyddiannus o amrywiaeth o ffynonellau a gweithio gyda chyllidwyr yn rheolaidd.
Profiad rheoli prosiect
Profiad o reoli llinell a goruchwylio o bell
Profiad o ddarparu cyngor a chefnogaeth
Profiad o weithio gyda chyllidebau
Profiad o weithio ar raglenni newid ymddygiad
Sgiliau a galluoedd / Gallu i gynllunio, cydlynu a threfnu cynlluniau gwaith effeithiol
Sgiliau cyfathrebu rhagorol, yn ysgrifenedig ac ar lafar
Sgiliau ysgrifennu adroddiadau da
Sgiliau cyflwyno rhagorol
Sgiliau arweinyddiaeth da
Y gallu i ysgogi eraill
Gallu profedig o weithio i amserlenni
Gallu i ddod o hyd i atebion creadigol i ystod o broblemau
Llythrennedd TG
Arall / Wedi ymrwymo i hyrwyddo trafnidiaeth gynaliadwy
Ymwybyddiaeth dda o faes hyrwyddo iechyd a newid ymddygiad
Meini Prawf / Dymunol
Profiad / Profiad o arwain gweithdai grŵp a chynllunio digwyddiadau
Gwybodaeth / Gwybodaeth am waith Sustrans mewn ysgolion, cymunedau a gweithleoedd
Arall / Cymhwysedd yn y Gymraeg