Rural News Wales

Revd Richard Kirlew

National Lead on Rural Affairs - Church in Wales

Tel: 01982 551288 Mob: 07966 754110 E Mail:

November 2013 (1)

Dear all

It’s here at long last!! Welcome to our first edition of Rural News Wales, which willbe published bi-monthly (ish). I add that little caveat so that if matters of urgency occur, we can report it to you fast.

Rural News Wales started life asRural News, being the rural issues newsletter of the Swansea & Brecon Diocese. However, due to popular demand, it has spread across the Province into every diocese. If any of you have information that would be worthy of spreading across Wales, or helpful criticism, please be in touch.

We shall be reporting on issues of the days such as bovine TB(bTB), the food supply chain and the supermarkets. We won’t just be concentrating on farming issues, but items that affect rural communities will be discussed also. Our aim is that every parish will see a copy, so that be it rural, suburban or urban, we will be able to raise issues of rurality across Wales, and importantly, bilingually. Ambitious you may say…well watch this space!

Bovine TB (bTB)

National Trust members have voted against a members’ resolution at the Trusts AGM last Saturday to ban badger culling and introduce a widespread badger vaccination programme on the charity’s land.

The membership was split as the resolution was defeated after the issue was debated for about 40 minutes. It will be interesting to see where this will leave us in Wales with many estates under the control of the National Trust and vaccination only being permitted by Welsh Government. Watch this space.

Meanwhile in Somerset and Gloucestershire, extensions on the cull have been granted to enable the correct number of badgers to be removed

BSE warning strikes home

Following the horsemeat scandal and all the ensuing publicity, the Food Standards Agency (FSA) have issued a timely reminder that the meat industry is courting disaster following the discovery of serious breaches of BSE rules in a British abattoir. Apparently meat containing banned specified risk material was being sold in Spain and a chain of UK butchers over the last two years. Again watch this space as this has ramifications throughout the UK.

Sky lanterns

A Deesidecouncilor whose grandson was nearly burned alive by Chinese lanterns has expressed his ‘deep disappointment’ at a Welsh government decision not to ban them completely. George Hardcastle, who represents Aston, was camping with his family on Shell Island, Gwynedd, in 2011 when a Chinese lantern landed on the tent where his grandson – who was 12 at the time – and his daughter’s nine-year-old stepson were sleeping.

The Welsh Government had been considering a ban on the use ofChinese lanterns in Wales but recently decided against it. Instead they will ask local authorities, including Flintshire County Council, to raise public awareness over the issue and to consider barring the release of lanterns on council-owned land. But surely, if they are to do this then a full scale ban would seem appropriate!

May I take this opportunity to wish to all a very Happy and Blessed Christmas and quiet New Year.

With best wishes.

Richard


Newyddion Gwledig Cymru

Y Parch Richard Kirlew

Arweinydd Cenedlaethol yr Eglwys yng Nghymru ar Faterion Gwledig

Ffôn: 01982 551288 Ffôn symudol: 07966 754110 E-bost:

Tachwedd 2013 (1)

Annwyl bawb

Dyma fo o’r diwedd!! Croeso i rifyn cyntaf Newyddion Gwledig Cymru, a fydd yn cael ei gyhoeddi bob deufis, fwy neu lai. Rwy’n ychwanegu’r ‘mwy neu lai’ hwn er mwyn gallu cysylltu â chi’n amlach gyda gwybodaeth am faterion brys.

Mae’r cylchlythyr hwn yn deillio o gylchlythyr materion gwledig Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu. Oherwydd ei boblogrwydd, penderfynwyd ymestyn y cylchlythyr ar gyfer pob esgobaeth. Cysylltwch â mi os oes gennych chi wybodaeth gwerth ei rhannu ledled Cymru, neu feirniadaeth adeiladol.

Byddwn yn adrodd ar faterion y dydd fel TB gwartheg (bTB), y gadwyn gyflenwi bwyd a’r archfarchnadoedd. Ond byddwn yn rhoi sylw i faterion eraill heblaw ffermio hefyd, gan drafod yr hyn sy’n effeithio ar gymunedau gwledig. Ein nod yw sicrhau bod pob plwyf yn cael copi, fel bod plwyfi gwledig, maestrefol a threfol yn cael clywed am faterion gwledig ledled Cymru, a hynny’n ddwyieithog. Nod uchelgeisiol….ond ymlaen mae Canaan!

TB mewn Gwartheg (bTB)

Yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ddydd Sadwrn diwethaf, pleidleisiodd yr aelodau yn erbyn difa moch daear ac o blaid cyflwyno rhaglen eang o frechu moch daear ar dir yr elusen.

Roedd yna wahaniaeth barn ymysg yr aelodau ond gwrthodwyd y cynnig ar ôl trafod y mater am tua 40 munud. Bydd hi’n ddiddorol gweld sut y bydd hyn yn effeithio arnom yng Nghymru gan fod llawer o ystadau o dan reolaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a dim ond brechu sy’n cael ei ganiatáu gan Lywodraeth Cymru. Fe gawn weld.

Yn y cyfamser, rhoddwyd caniatâd i ymestyn yr amserlen ddifa yng Ngwlad yr Haf a Swydd Gaerloyw er mwyn cael gwared ar y nifer priodol o foch daear.

Y rhybudd am BSE ar garreg ein drws

Yn dilyn y sgandal am gig ceffyl a’r holl gyhoeddusrwydd yn dilyn hynny, mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi cyhoeddi datganiad amserol i’n hatgoffa bod y diwydiant cig yn chwarae gyda thân yn sgil darganfod achos difrifol o dorri rheolau yn ymwneud â BSE mewn lladd-dy ym Mhrydain. Mae’n debyg bod cig a oedd yn cynnwys deunydd risg penodedig sydd wedi’i wahardd yn cael ei werthu yn Sbaen ac mewn cadwyn o siopau cig yn y DU dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Cawn weld sut y bydd hyn yn effeithio ar y DU gyfan.

Llusernau awyr

Mae cynghorydd o Lannau Dyfrdwy, wnaeth bron colli ei ŵyr ar ôl iddo gael ei losgi gan lusernau Tsieineaidd, wedi mynegi ei ‘siom ddirfawr’ gyda phenderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â’u gwahardd yn llwyr. Roedd George Hardcastle, sy’n cynrychioli Aston, yn gwersylla gyda’i deulu ym Mochras, Gwynedd, yn 2011 pan laniodd llusern Tsieniaidd ar y babell lle roedd ei ŵyr - a oedd yn 12 oed ar y pryd - a llysfab 9 oed ei ferch yn cysgu.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ystyried gwahardd llusernau Tsieniaidd yng Nghymru ond newydd benderfynu peidio â gwneud hynny. Yn lle hynny, bydd yn gofyn i awdurdodau lleol, yn cynnwys Cyngor Sir y Fflint, i godi ymwybyddiaeth o’r mater ac i ystyried gwahardd rhyddhau llusernau ar dir y cyngor. Ond os ydynt am wneud hynny, waeth iddynt eu gwahardd yn gyffredinol!

Ga’ i fanteisio ar y cyfle i ddymuno Nadolig Llawen a Bendithiol i chi gyd a Blwyddyn Newydd dawel a dedwydd.

Cofion gorau

Richard