JOB DESCRIPTION AND PERSON SPECIFICATION

POLICY & COMMUNICATION PARTNER – DELIVERY TEAM

Context

Chwarae Teg’s vision is for a Wales where women achieve and prosper. The Delivery Team activities contribute to this vision by supporting individuals, employers, people and organisations with influence, to behave in a way that enables women to achieve their goals. For example, helping create a Wales where women achieve and prosper by:

·  Developing and operating projects that support individual women broaden their horizons and build their confidence and skills to meet their goals; and

·  Working with employers to develop modern workplaces and working practices that provide an environment conducive to women contributing more.

·  Working with influencers, educators and decision makers to build a society that values, supports and benefits women and men equally.

Job Description

The Policy and Communications Partner will work to the Policy and Research Lead and be accountable for providing policy and communications support. This will include:

·  Drafting consultation responses, briefing papers and other policy statements;

·  Carrying out desk-based research to support the Policy and Research Lead and Research Partner and contribute to the work of the team, including consultation responses and briefing papers

·  Developing methods of engagement to elicit information that will inform our consultation responses and policy development;

·  Producing communications and campaigning material, including drafting articles, blogs, newsletters and press releases

·  Liaising with colleagues in marketing and communications teams to ensure that Policy and Research content is communicated effectively across all platforms, including our digital platforms

·  Representing Chwarae Teg at meetings/networks; and

·  Coordinating and promoting events, meetings, launches etc.

·  Building networks with stakeholders and media contacts

Person Specification

All Chwarae Teg staff are expected to commit to and exhibit values, attitudes and behaviours that contribute positively to our vision and mission and the values set out in our organisational DNA (see annex 1).

To carry out this role effectively, it is essential that the post holder also:

·  Is passionate about gender equality and is committed to bringing about political, societal and cultural change to help build a Wales where women achieve and prosper

·  Has experience of working to develop and/or influence policy and the ability to communicate policy positions to a wide range of audiences

·  Has a sound awareness of the political landscape in Wales and understands how to engage and influence policy makers and decision makers including AMs and MPs

·  Has the ability to carry out research and collate information from a wide range of sources

·  Has experience of coordinating and promoting events

·  Has experience of effectively using social media to engage with stakeholders

·  Has good interpersonal skills and is able to represent the organisation in a policy context;

·  Has well developed communication skills and can demonstrate an ability to write for a range of audiences, including policy makers and the wider public;

·  Is a self-starter who can work autonomously and proactively seeks out new opportunities

It would also be useful for the post holder to:

·  Speak and write Welsh

Annex 1:

Vision: A Wales where women achieve and prosper.

Chwarea Teg DNA:

We areambitious– as individuals, as an organisation and for those we work with.

We arepioneers– we build anduse our expertise to make Chwarae Teg and our partners more successful.

We aredynamicandresilient– we are impatient for change and we don’t take no for an answer!

We are oneunitedteam – we help and challenge each other to do the best job possible.

We areinnovative– we have fun being creative in getting results

DISGRIFIAD SWYDD A MANYLEB Y PERSON

PARTNER POLISI A CHYFATHREBU – TÎM CYFLAWNI

Cyd-destun

Cymru lle mae menywod yn cyflawni a ffynnu - dyna yw gweledigaeth Chwarae Teg. Mae gweithgareddau’r Tîm Cyflawni’n cyfrannu at y weledigaeth hon drwy gefnogi unigolion, cyflogwyr, pobl a sefydliadau gyda dylanwad, i ymddwyn mewn ffordd sy’n galluogi menywod i gyflawni eu nodau. Er enghraifft, creu Cymru lle mae menywod yn cyflawni a ffynnu drwy:

·  Ddatblygu a gweithredu prosiectau sy’n cefnogi menywod unigol i ehangu eu gorwelion a meithrin eu hyder a’u sgiliau i gyflawni eu nodau;

·  Gweithio gyda chyflogwyr i ddatblygu gweithleoedd ac arferion gwaith modern sy’n darparu amgylchedd lle gall menywod gyfrannu mwy;

·  Gweithio gyda dylanwadwyr, addysgwyr a llunwyr penderfyniadau i greu cymdeithas sy’n gwerthfawrogi, cefnogi ac yn rhoi’r un manteision i fenywod a dynion.

Disgrifiad Swydd

Bydd y Partner Polisi a Chyfathrebu yn gweithio gyda’r Arweinydd Polisi ac Ymchwil ac yn atebol am ddarparu cymorth ym maes polisi a chyfathrebu. Bydd hyn yn cynnwys:

·  Drafftio ymatebion i ymgynghoriadau, papurau briffio a datganiadau polisi eraill;

·  Cynnal ymchwil desg i gefnogi’r Arweinydd Polisi ac Ymchwil a’r Partner Ymchwil a chyfrannu at waith y tîm, gan gynnwys ymatebion i ymgynghoriadau a phapurau briffio;

·  Datblygu dulliau ymgysylltu i gasglu gwybodaeth a fydd yn llywio ein hymatebion i ymgynghoriadau a datblygiad polisi;

·  Cynhyrchu deunydd cyfathrebu ac ymgyrchu, yn cynnwys drafftio erthyglau, blogiau, cylchlythyrau a datganiadau i’r wasg;

·  Trafod gyda chydweithwyr yn y timau marchnata a chyfathrebu i sicrhau bod y cynnwys Polisi ac Ymchwil yn cael ei gyfathrebu’n effeithiol ar draws pob platfform, yn cynnwys ein platfformau digidol;

·  Cynrychioli Chwarae Teg mewn cyfarfodydd/rhwydweithiau;

·  Cydgysylltu a hyrwyddo digwyddiadau, cyfarfodydd, lansiadau ac ati;

·  Meithrin rhwydweithiau gyda rhanddeiliaid a chysylltiadau yn y cyfryngau.

Manyleb Person

Disgwylir i staff Chwarae Teg ymrwymo i ac arddangos y gwerthoedd, yr agweddau a’r ymddygiad sy’n cyfrannu’n gadarnhaol at ein gweledigaeth a’n cenhadaeth a’n gwerthoedd sy’n rhan o DNA ein sefydliad (gweler atodiad 1).

Er mwyn cyflawni’r rôl hon yn effeithiol, mae’n hollbwysig bod gennych y rhinweddau canlynol hefyd:

·  Angerdd dros gydraddoldeb rhywiol ac ymrwymiad i sicrhau newid gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol i helpu i greu Cymru lle gall menywod gyflawni a ffynnu;

·  Profiad o weithio i ddatblygu a/neu ddylanwadu ar bolisi a’r gallu i gyfathrebu safbwyntiau polisi i ystod eang o gynulleidfaoedd;

·  Ymwybyddiaeth gadarn o sefyllfa wleidyddol Cymru ac yn deall sut mae ymgysylltu â llunwyr polisïau a phenderfyniadau, gan gynnwys Aelodau Cynulliad ac Aelodau Seneddol, a dylanwadu arnynt;

·  Y gallu i wneud gwaith ymchwil a choladu gwybodaeth o ystod eang o ffynonellau;

·  Profiad o gydgysylltu a hyrwyddo digwyddiadau;

·  Profiad o ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn effeithiol i gysylltu â rhanddeiliaid;

·  Sgiliau rhyngbersonol da a gallu cynrychioli’r sefydliad mewn cyd-destun polisi;

·  Sgiliau cyfathrebu sydd wedi’u datblygu’n dda a’r gallu i ysgrifennu ar gyfer amrywiaeth o gynulleidfaoedd, yn cynnwys llunwyr polisïau a’r cyhoedd yn ehangach;

·  Gallu gweithio ar eich liwt eich hun ac yn annibynnol ac yn mynd ati’n rhagweithiol i chwilio am gyfleoedd newydd

Byddai hefyd yn ddefnyddiol pe baech chi’n:

·  Siarad ac ysgrifennu Cymraeg

Atodiad 1:

Gweledigaeth: Cymru lle mae menywod yn cyflawni a ffynnu

DNA Chwarae Teg :

Rydyn ni’n uchelgeisiol– fel unigolion, fel sefydliad a dros y rhai rydyn ni’n cydweithio â nhw.

Rydyn ni’narloesol– yn creu ac yn defnyddio’n harbenigedd i sicrhau bod Chwarae Teg a’n partneriaid yn fwy llwyddiannus.

Rydyn ni’negnïolachadarn– yn ysu i newid pethau a byth yn derbyn ‘na’ fel ateb!

Rydyn ni’n un tîmunedig – yn helpu ac yn herio’n gilydd i wneud y gwaith gorau posib.

Rydyn ni’ntorri tir newydd– yn cael hwyl wrth sicrhau canlyniadau mewn ffordd greadigol.