Dear parent / guardian,
A warm welcome back to school. I look forward to working with you all again this year to ensure success and happiness for every child. It is a pleasure to welcome sixty five new nursery pupils as well as all our old friends in every class (450 of them by now!) Positive messages about the school’s success are spreading throughout our catchment area and more and more parents are choosing Welsh medium education for their children.
I wish to extend my gratitude to all families in preparing the children for the new academic year. They all look so smart in their new uniforms and black shoes and their pride in being a part of the school is obvious. The children have settled well into their new classes and are ready to face the challenges being prepared for them. I would like to use this opportunity to remind you all of important school rules that will ensure a smooth start for all involved.
· We are a Healthy School – your child may bring a piece of fruit (or 20p) and water (not squash) every day. No sweets please and only one small bar of chocolate in lunch boxes. We also have a number of pupils in school with nut allergies, so we kindly ask you all to be mindful of this and not provide your children with any nuts in their lunchbox.
· Punctuality and Attendance – we expect every child to be in school between 8:50 and 9:00am. No child should be left unattended by an adult before 8:50am. If your child is absent, we kindly request that you to telephone the office before 9:20am. On the day that the child returns to school, we would appreciate a note explaining the reason for absence. Any child who displays bad attendance or punctuality (under 90%) will be referred to the Education Welfare Officer. For more details, please see our Attendance Policy on the school website.
· Dinner money – please could you send dinner money to school every Monday in an envelope (£1:90 a day / nursery children £2.30 a day) with your child’s name and class clearly marked on it. We kindly ask you not to swap between dinners and sandwiches in the middle of a week.
· Texting system – many of our families praise our texting system as an excellent way of communication. If you wish to continue to receive texts this year, please could you send a contribution of £4:00 (per family) to Mrs Dainton. It is your responsibility to keep your contact details up to date in school.
· Parking – please can you all use the main car park on Crescent Road and not block nearby streets and pavements. You can park for free for 10 minutes at the beginning and end of the school day. Your child’s safety is paramount to us and irresponsible parking will be reported to the police.
· Please remember if you have any concerns about your child, it is imperative that you make an appointment to see the teachers / myself through the office. I regularly stand on the yard prior to school and at home time so please feel free to approach me with any queries.
Thank you all for your cooperation in these matters. Together, we can work proactively for the benefit of all our pupils. Every child only has one chance to enjoy childhood and we want the best for each individual.
Yours faithfully,
HC Nuttall
Head Teacher
Annwyl rieni / warchodwyr,
Croeso cynnes iawn yn ôl i’r ysgol. Edrychaf ymlaen at gydweithio gyda chi i gyd am flwyddyn lwyddiannus arall yn hanes yr ysgol. Mae’n bleser i groesawu chwech deg pump o blant newydd i’r ysgol yn ogystal ag hen gyfeillion ym mhob dosbarth (450 ohonynt erbyn hyn!) Mae neges am lwyddiant yr ysgol yn lledaenu gyda mwy a mwy o deuluoedd yn dewis addysg Gymraeg yn ein talgylch.
Hoffwn estyn fy niolchiadau i bawb am baratoi’r plant ar gyfer blwyddyn newydd trwy ddarparu gwisg ysgol gywir ac esgidiau du; mae pob un ohonynt yn edrych mor smart ac yn falch i fod yn rhan o deulu’r ysgol. Maent wedi setlo yn eu dosbarthiadau newydd ac yn barod i wynebu her y flwyddyn. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i’ch atgoffa am ychydig o reolau ysgol pwysig sydd yn gymorth i bawb ar ddechrau’r flwyddyn.
· Ysgol Iach ydym ni – mae angen ffrwyth (neu 20c) a dŵr (dim sudd) ar eich plentyn yn ddyddiol. Dim losin a dim ond un bar bach o siocled yn y bocsys bwyd. Hefyd, mae gennym nifer o blant sydd ag alergedd i gnau – plis meddyliwch amdanynt a pheidiwch â rhoi cnau ym mocs eich plentyn.
· Prydlondeb a phresenoldeb – disgwylir i’r plant fod yn yr ysgol rhwng 8:50 a 9:00. Ni chanietir unrhyw blentyn i fod ar safle’r ysgol heb oedolion cyn 8:50yb. Os yw eich plentyn yn absennol, rhaid ffonio’r swyddfa erbyn 9:20yb i egluro’r rheswm. Gofynnir i chi anfon nodyn o eglurhad ar y diwrnod y bydd eich plentyn yn dychweld i’r ysgol. Atgyfeirir unrhyw blentyn sy’n arddangos presenoldeb neu brydlondeb gwael (o dan 90%) at y Swyddog addysg a Lles. Am fwy o fanylion, gwelir ein polisi Presenoldeb a Phrydlondeb ar wefan yr ysgol.
· Arian cinio – a wnewch chi ddanfon arian cinio yn wythnosol ar Ddydd Llun (£1:90 y diwrnod / £2:30 ar gyfer plant meithrin) at Mrs Bie mewn amlen gan nodi enw a dosbarth eich plentyn. Gofynnwn yn garedig i chi gadw at ginio neu frechdanau am wythnos gyfan yn lle newid nôl ac ymlaen yn ddyddiol.
· System tecstio – mae llawer o’n rhieni yn canu clod mawr i’n systemau cyfathrebu tecstio. Os yr ydych am barhau i dderbyn negeseuon tecst, a wnewch chi plis ddanfon cyfraniad o £4:00 (pob teulu) at Mrs Dainton. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y rhifau cyswllt cywir gennym.
· Parcio – a wnewch chi barcio yn y prif faes parcio ar Heol Cilgant ac nid yn y strydoedd cyfagos ac ar y palmentydd. Mae’n bosibl i chi ddefnyddio’r maes parcio yn rhad ac am ddim am ddeg munud ar ddechrau a diwedd y dydd. Cofiwch mae diogelwch pob plentyn yn flaenoriaeth i ni; bydd unrhywun sy’n parcio’n anghyfreithlon yn cael ei gyfeirio at yr heddlu.
· Os oes unrhywbeth yn eich poeni, cofiwch ei fod yn hanfodol i wneud apwyntiad i weld yr athrawon / Mrs Nuttall trwy’r swyddfa. Rydw i’n aros wrth y drws yn rheolaidd i’ch helpu gyda mân gwestiynau. Dewch i siarad â fi.
Diolch yn fawr iawn am eich cydweithrediad yn y materion uchod. Gyda’n gilydd, cawn ni weithio er lles holl blant yr ysgol. Dim ond un siawns mae pob plentyn yn derbyn mewn bywyd ac yr ydym eisiau’r gorau i bob unigolyn.
Yn gywir,
HC Nuttall
Pennaeth